Mae Dawnswyr Talog yn hannu o bentref bach Talog ar gyrion Caerfyrddin ond maent yn gyfarwydd â diddanu cynulleidfaoedd led led Cymru ac ar draws Ewrop. Fel enillwyr cenedlaethol cyson fe’u cysylltir â dawnsio gwerin Cymreig o’r safon uchaf ond maent hefyd yn barod iawn i ymestyn y ffiniau.
Trwy gyfuno’r hen a’r newydd maent yn arloesi ym myd y ddawns werin Gymreig. Bydd amrywiaeth o frethyn a gwisgoedd modern; stepiau traddodiadol a rhythmau pop cyfoes yn sicrhau gwledd i’r llygad a’r glust!
Dawnswyr Talog hail from the little village of Talog on the outskirts of Carmarthen, but are experienced in entertaining audiences throughout Wales and across Europe. As regular national winners they are linked with Welsh folk dancing of the highest standard, but are also very happy to push the boundaries.
Combining the old and the new they are innovators in the Welsh folk dancing world. There’ll be plenty of variety, traditional step dancing and current pop rhythms during their set – a feast f